Oriau Gwaith: 15 awr yr wythnos - rhwng dydd Llun a dydd Gwener 09:00-17:00 - patrwm gwaith penodol a diwrnodau penodol i gytuno arnynt ar ÿl penodiad llwyddiannus.
Rydym yn agored i ymgeiswyr a allai fod â diddordeb mewn gweithio mwy na 15 awr ac rydym yn gofyn eich bod yn nodi hyn wrth wneud cais.
Contract: Cyfnod penodol hyd at fis Rhagfyr 2025
Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich. Dysgwch fwy am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru www.thewallich.com/about-us
Oes gennych chi brofiad uniongyrchol o gamddefnyddio sylweddau, o ddigartrefedd neu o iechyd emosiynol bregus?
Ydych chi’n teimlo eich bod chi’n unigolyn dewr, penderfynol, didwyll a thrugarog, a bod gennych chi ymdeimlad o gymuned?
Yn The Wallich chwilio’r rydym am y bobl iawn, nid am y bobl sydd â’r hanes gwaith iawn.
Disgrifiad o'r Prosiect
Mae BOOST Gwent yn bwynt canol mewn prosiect pum mlynedd a ariennir gan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. Nod y gwasanaeth yw gwneud digartrefedd yn rhywbeth prin, a’i atal rhag digwydd dro ar ÿl tro.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng The Wallich, Ymddiriedolaeth St Giles, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Tai Pawb. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau i roi cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd gael hyfforddiant, ennill cymwysterau gwerth chweil, gwirfoddoli a chael gwaith cyflogedig. Mae hefyd yn bwriadu hyrwyddo arferion mwy cynhwysol, defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar seicoleg ac yn mabwysiadu egwyddorion cyd-gynhyrchu.
Pwrpas y Swydd
Ar hyn o bryd rydym wrthi’n recriwtio 4 unigolyn i ymuno â ni fel Arloeswyr BOOST Gwent.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei reoli gan The Wallich ac yn gweithio ochr yn ochr â’r partneriaid i helpu i redeg y Prosiect BOOST gan ddefnyddio cyfleoedd i ddysgu sgiliau, a chael gwybodaeth a phrofiad wrth gyflawni’r dyletswyddau sy’n ofynnol gan ein partneriaid.
Byddwch yn darparu cefnogaeth ar sail eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad bywyd i alluogi unigolion i fynd i’r afael â’r materion cymhleth sy’n ymwneud â digartrefedd. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cymryd rhan weithredol ym Menter Gymdeithasol BOOST, lle byddwch yn un o arweinwyr y fenter gyffrous, fywiog a thrawsnewidiol hon.
Drwy eich rÿl byddwch yn ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, gyda’r cyfle i gael mynediad at ystod eang o hyfforddiant.
Fel rhan annatod o’ch rÿl, byddwch yn gweithio ar draws partneriaid BOOST i sicrhau eich bod yn ennill profiad a gwybodaeth i’ch arwain at eich cyfle cyflogaeth nesaf.
Mae’r swydd hon yn gofyn am Ddatgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae wedi’i neilltuo ar gyfer unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd neu o sefyllfa debyg.
Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi’r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda llenwi’r swydd hon.
Dilynwch y ddolen berthnasol isod i weld y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person. Bydd y broses yn rhoi’r cyfle i chi amlinellu eich profiadau, felly cyfeiriwch at yr wybodaeth hon wrth lenwi eich cais:
Dolen Disgrifiad o’r Swydd (Cymraeg)
Dolen Disgrifiad o’r Swydd (Saesneg)
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y swydd hon yw 25 Chwefror 2025 am 09:00am.
Mae The Wallich yn cadw’r hawl i ddod â’r broses ymgeisio i ben yn gynnar os ydym yn derbyn digon o geisiadau. Felly, mae’n syniad da i chi gyflwyno eich cais yn gynnar.
Yn The Wallich, rydym wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosib. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464