Caerdydd – Rheolwr Cÿr Dros Dro
Oriau: 20 awr yr wythnos gan gynnwys nosweithiau Llun a phrynhawniau Mawrth
Gwyliau blynyddol: 25 diwrnod o wyliau gyda thâl pro rata
Cyfnod: Contract Cyfnod Penodol 4 mis gyda’r posibilrwydd o estyniad
Cyflog: £32,462 pro rata
Manteision: 6% pensiwn cyfraniad gweithiwr cyflogedig, Rhaglen Cymorth Gweithwyr, lwfans gweithio o gartref
Dyddiad cau: 9am Dydd Llun 19 Ionawr
Mewn partneriaeth â’r Wallich, mae ein cÿr yng Nghaerdydd wedi bod yn dod â phobl a effeithiwyd gan ddigartrefedd at ei gilydd pob nos Fawrth ers 2021. Rydyn ni nawr yn chwilio am Reolwr Cÿr brwdfrydig i ymuno â ni, am bedwar mis i ddechrau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rÿl allweddol mewn rhedeg ymarferion wythnosol diogel a chroesawus y cÿr a’i berfformiadau achlysurol.
Fel Rheolwr Cÿr Caerdydd CWNN, byddwch yn arwain ochr weinyddol a bugeiliol y cÿr yng Nghaerdydd. Gan weithio’n agos â Chyfarwyddwr Cerdd Caerdydd, byddwch yn cydlynu a chefnogi tîm bach o wirfoddolwyr, gan helpu’r cÿr i ffynnu. Byddwch hefyd yn gyfrifol am recriwtio aelodau ar gyfer y cÿr a’u helpu i deimlo’n gartrefol yn y cÿr, i fagu hyder a hefyd eu cyfeirio ymlaen at wasanaethau ychwanegol lle bo angen.
Byddwch hefyd yn rheoli a goruchwylio’r gwaith o gynllunio a chynnal gigs a chefnogi gweithdai allgymorth hyrwyddol yn y gymuned leol. Pennaeth Rhaglenni Choir With No Name fydd eich Rheolwr Llinell uniongyrchol, gyda chymorth ychwanegol gan Bennaeth Gwasanaethau Arloesi a Gwella'r Wallich, ein sefydliad partner yng Nghaerdydd.