Rheolwr Gwasanaeth BOOST Gwent

Location Newport
Job Category: Operational Management
Job type: Fixed Term Role
Salary: £32,641.98 y flwyddyn
Contact name: David Bryan Bennett

Contact email: david.bennett@thewallich.net
Job ref: 007242
Published: 9 days ago

Oriau Gwaith: 37.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00-17:00 gyda rhywfaint o hyblygrwydd. Byddem hefyd yn agored i ystyried unigolion sydd am weithio llai o oriau. Os felly, nodwch hyn yn eich llythyr eglurhaol.

Lleoliad: Mae’r rÿl yn hybrid, gyda’r opsiwn i weithio gartref neu mewn swyddfa.

Contract: Cyfnod penodol hyd at fis Mai 2027

Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich. Dysgwch fwy am The Wallich, prif elusen digartrefedd Cymru yma  www.thewallich.com/about-us 

Disgrifiad o'r Prosiect

Mae BOOST Gwent yn cael ei redeg fel partneriaeth rhwng The Wallich, Ymddiriedolaeth St Giles, Cymorth i Fenywod Cyfannol, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Tai Pawb. Nod y gwasanaeth yw gwneud digartrefedd yn rhywbeth prin, sydd ond yn digwydd am gyfnod byr a ddim yn digwydd dro ar ÿl tro. Mae’r prosiect yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i roi cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd i gael hyfforddiant, ennill cymwysterau gwerth chweil, gwirfoddoli a chael gwaith cyflogedig. Mae’n hyrwyddo arferion mwy cynhwysol, dulliau sy’n seiliedig ar seicoleg ac yn mabwysiadu egwyddorion cyd-gynhyrchu.

Pwrpas y Rÿl

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i reoli BOOST Gwent; prosiect pum mlynedd a noddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i Daclo Digartrefedd yng Ngwent.

Bydd deiliad y swydd yn gallu rheoli perthynas â nifer o randdeiliaid, meithrin cysylltiadau cryf ar draws gwahanol sectorau, a datrys problemau’n greadigol.

Byddai gwybodaeth am y sector digartrefedd a thai yn fuddiol, ond rydym yn agored i ymgeiswyr o sectorau eraill sy’n gallu cynnig ffyrdd newydd o weithio a dulliau arloesol.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod y rÿl, cysylltwch â David Bennett ar david.bennett@thewallich.net neu 07717 574267

Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Mae trwydded yrru a cherbyd at eich defnydd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi’r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda’r swydd wag hon.

Dilynwch y ddolen isod i weld y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person. Cyfeiriwch at y wybodaeth hon wrth lenwi eich CV ac ysgrifennu Llythyr Eglurhaol; trowch at ein  Canllawiau Ymgeisio i gael awgrymiadau ar beth i'w gynnwys:

Dolen Disgrifiad Swydd - Cymraeg

Dolen Disgrifiad Swydd - Saesneg

Buddiannau i Weithwyr

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar gyfer y swydd wag hon yw 4 Tachwedd 2024 am 09:00am. 

Mae The Wallich yn cadw’r hawl i ddod â’r broses ymgeisio i ben yn gynnar os ydym yn derbyn digon o geisiadau. Felly, mae’n syniad da i chi gyflwyno eich cais yn gynnar.

Yn The Wallich, rydym wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosib. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464